Neidio i'r prif gynnwy
Professor. Ceri Phillips

Independent Member

Welsh Health Specialised Services Committee

whssc.nhs.wales/

Unit G1, Main Ave, Treforest Industrial Estate, Pontypridd, CF37 5YL

Amdanaf i

Independent Member

Daw Ceri yn wreiddiol o Castell-nedd ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Castell-nedd, UWIST a Phrifysgol Abertawe. Hyd at fis Gorffennaf 2020, roedd yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro Economeg Iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe.

Mae wedi bod yn aelod annibynnol o Fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru ers ei sefydlu, ar ôl bod yn aelod o Adolygiad Evans a argymhellodd greu’r sefydliad. Arferai fod yn aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae wedi bod yn Gadeirydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru gyfan ers mis Awst 2019, ar ôl bod yn un o sylfaenwyr y Grŵp. Roedd hefyd yn gyd-arweinydd yr Adolygiad o feddyginiaethau amddifad a thra amddifad yng Nghymru yn 2014. Yn ogystal, roedd yn aelod o Gomisiwn Bevan a chyd-awdur y cyhoeddiad a roddodd fod i’r syniad o Ofal Iechyd Darbodus yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae'n Athro Emeritws mewn Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Yn ystod ei yrfa, mae wedi ymgymryd â gwaith wedi'i gomisiynu i werthuso rhaglenni ac ymyriadau ar gyfer ystod o sefydliadau, gan gynnwys llywodraethau a NICE, ac mae wedi ysgrifennu dros 220 o gyhoeddiadau ac wedi sicrhau incwm grant o dros £28 miliwn.