Neidio i'r prif gynnwy
Kate Eden

Chair

Welsh Health Specialised Services Committee

whssc.nhs.wales/

Unit G1, Main Ave, Treforest Industrial Estate, Pontypridd, CF37 5YL

Amdanaf i

Chair

Penodwyd Kate yn Gadeirydd WHSSC ym mis Hydref 2020.

Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru a daeth yn Is-gadeirydd yn 2017. Mae hi'n cadeirio'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwella yno.

Cyn cychwyn ar rolau arweinyddiaeth anweithredol, mae Kate wedi gweithio yn y diwydiant fferyllol, ac mae ganddi bymtheng mlynedd o brofiad o rolau arwain uwch ar lefel y DU a rhyngwladol. Yn sail i'w harbenigedd mewn materion cyhoeddus, polisi a chyfathrebu strategol mae dealltwriaeth dechnegol o werthuso, ad-dalu a phrisio ymyriadau gofal iechyd. Yn fwyaf diweddar, roedd Kate yn Gyfarwyddwr Materion Cyhoeddus yn Shire plc, lle bu’n cysylltu â llywodraeth, y GIG a rhanddeiliaid eiriolaeth cleifion i sicrhau mynediad cleifion at feddyginiaethau ar gyfer clefydau prin a phrin iawn. Trwy gydol ei gyrfa mae Kate wedi eistedd ar nifer o bwyllgorau a gweithgorau cymdeithasau masnach. Yn ogystal â'i harbenigedd mewn gofal iechyd, mae Kate wedi treulio amser mewn ymgynghoriaethau byd-eang ac wedi gweithio ar bolisi ynni a gwyddoniaeth.

Cafodd Kate ei geni a'i magu yng Ngogledd Cymru. Mynychodd Ysgol Alun yn yr Wyddgrug cyn astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Mae Kate a'i gŵr yn byw yn y Bannau Brycheiniog ac yn ei hamser hamdden mae'n gefnogwr brwd o'r celfyddydau, yn enwedig cerddoriaeth, ac yn parhau â'i hastudiaethau Cymreig yng Ngholeg Gwent.

Mae Kate hefyd yn aelod o'r Cyngor ac yn Ymddiriedolwr Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn Aelod Annibynnol o'r Cyngor ym Mhrifysgol Aberystwyth.