Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Ein nod strategol yw, ar ran Byrddau Iechyd Lleol GIG Cymru, sicrhau bod mynediad teg at wasanaethau arbenigol diogel, effeithiol a chynaliadwy i bobl Cymru, mor agos at gartrefi cleifion â phosibl, o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) yn gyd-bwyllgor o bob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru, a sefydlwyd o dan Gyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (Cymru) 2009 (2009/35). Mae'r Cyd-bwyllgor yn dod â Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru ynghyd i gynllunio gwasanaethau arbenigol ar gyfer poblogaeth Cymru.

Mae hwn yn newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio ac mae wedi gofyn am greu systemau a phrosesau newydd i adlewyrchu'r trefniadau newydd hyn. Mae'r rhain wedi cynnwys trefniadau adrodd corfforaethol ac ariannol cwbl newydd.