Bob blwyddyn, mae WHSSC yn derbyn arian gan y Byrddau Iechyd i dalu am ofal iechyd arbenigol i bawb sy'n byw yng Nghymru ac sydd â hawl i ofal y GIG. Ein gwaith ni yw cael y gwerth gorau am yr arian hwn trwy ei wario'n ddoeth ar eich rhan. Mae'r galw am ofal iechyd yn cynyddu. Mae triniaethau newydd a drud yn aml ar gael bron bob wythnos. Fodd bynnag, dim ond swm penodol o arian sydd gennym i'w wario ac felly mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn weithiau.
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) yn gyfrifol am gyd-gynllunio Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol ar ran Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru . Pan nad oes triniaethau ar gael fel mater o drefn, gall cleifion a allai gael budd penodol ddal i gael gafael ar y driniaeth trwy broses o'r enw Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) .