Mae’r ceisiadau am gyllid yn cael eu hystyried gan Banel Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol Cymru Gyfan. Diben y panel yw gweithredu fel Is-bwyllgor o PGIAC a meddu ar awdurdod cyd-bwyllgor dirprwyedig. Mae’n defnyddio’r awdurdod hwn i ystyried a dyfarnu ceisiadau am gyllido gofal iechyd y GIG i gleifion sy’n methu â defnyddio’r amrywiaeth o wasanaethau a thriniaethau mae Bwrdd Iechyd wedi cytuno i’w darparu fel mater o drefn.
Bydd y panel bob amser yn gweithredu’n unol â Pholisi Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) Cymru Gyfan gan ystyried y polisïau cyllido priodol y mae PGIAC wedi cytuno arnynt.
Fel arfer, bydd y Panel yn dod i benderfyniad ar sail yr holl dystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi ei rhoi iddo, gan gynnwys y ffurflen gais ei hun ac unrhyw ddogfennau eraill o dystiolaeth sy’n cael eu darparu er mwyn ategu’r cais.
Gall y Panel, ar ei ddisgresiwn ei hun, ofyn i unrhyw glinigwr egluro unrhyw fater neu ofyn am gyngor clinigol arbenigol annibynnol er mwyn i’r Panel ystyried y cais yn ddiweddarach. Bydd y ddarpariaeth o dystiolaeth briodol i’r Panel ar ddisgresiwn llwyr Cadeirydd y Panel.
Mae cylch gorchwyl Panel Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol Cymru Gyfan i’w weld yn ei gyfanrwydd ym Mholisi GIG Cymru: Gwneud Penderfyniadau ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR).
Mae’r polisi’n nodi’n glir sut ymdrinnir â’r ceisiadau hyn a sut mae modd gwneud cais. Mae’r Paneli IPFR yn dyfarnu ceisiadau am gyllid ar sail yr wybodaeth sy’n cael ei darparu gan y meddyg teulu a/neu ymgynghorydd er mwyn dangos sut mae disgwyl i’r driniaeth ddwyn budd clinigol arwyddocaol i’r claf penodol hwnnw a ph’un a ydy cost y driniaeth yn cyd-fynd â’r budd clinigol disgwyliedig.
Ers mis Mawrth 2015, mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) wedi gweithio gyda’r phaneli IPFR a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) i roi argymhellion adolygiad annibynnol ar waith er mwyn cryfhau a gwella proses yr IPFR yng Nghymru.
Cyflwyniadau electronig
Erbyn hyn, mae clinigwyr yn gallu cofrestru fel defnyddwyr ar y system a chyflwyno ceisiadau’n uniongyrchol. Os oes cyfeiriad e-bost y GIG gyda’r clinigydd, gan gynnwys clinigwyr yn NHS England, bydd yn gallu cofrestru fel defnyddiwr ar y system e-gyflwyniadau drwy roi clic ar yr e-ffurflen yma. Byddwch chi’n cael eich tywys yn awtomatig at gronfa ddata’r IPFR.
Mae fideo sy’n esbonio’r broses o ystyried IPFR i’w weld ar wefan AWTTC, sydd hefyd yn ateb cwestiynau cyffredin.
Ein blaenoriaeth yw talu am y triniaethau sy’n effeithiol yn glinigol, sy’n gallu dangos eu bod yn gwella iechyd pobl ac yn cynnig gwerth am arian. O ganlyniad, dydyn ni ddim yn cynnig rhai triniaethau fel arfer ac mae’r rhain yn cynnwys dau gategori gwahanol.
Y rhain yw:
Mae GIG Cymru yn dilyn polisi clir ynghylch sut i ddelio â Cheisiadau Cyllido Cleifion Unigol:
1 Polisi Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) Cymru Gyfan – Mehefin 2017
2 Canllawiau ynghylch Ceisiadau Cyllid Cleifion Unigol (IPFR) – Mawrth 2018
3 Taflen i gleifion ynghylch Ceisiadau Cyllid Cleifion Unigol Cymru Gyfan – Tachwedd 2019
4 Ffurflen Gais Cyllid Cleifion Unigol – Hydref 2019
5 Cais Cyllid Cleifion Unigol i’w adolygu – Medi 2017
Fel arfer, diffiniad “cymeradwyaeth ymlaen llaw” yw cais am driniaeth arferol i glaf y tu hwnt i wasanaethau lleol neu drefniadau contractiol. Gan amlaf, bydd cais o’r fath yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:
Mae’r polisi Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw yn gosod y cyd-destun cenedlaethol ac yn rhoi eglurder i glinigwyr sy’n atgyfeirio ac i gleifion. Fodd bynnag, mae’n bosib bod rhagor o brosesau polisi ar waith sy’n amlinellu gofynion penodol o ran comisiynu, contractau a gofynion eraill o ran cymeradwyaeth ymlaen llaw. Bydd hyn yn amrywio ar draws pob bwrdd iechyd.
Mae gan PGIAC nifer o bolisïau comisiynu ar waith sy’n ymwneud â gwasanaethau/triniaethau penodol. Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi ynglŷn â gwneud cais cyllido cleifion, ffoniwch Dîm Gofal Cleifion PGIAC ar 01443 443443 est. 78123 neu e-bostiwch ni.