Fe'i harweinir gan Gadeirydd Annibynnol, a benodir gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r aelodaeth yn cynnwys tri Aelod Annibynnol, ac un ohonynt yw'r Is-gadeirydd, Prif Swyddogion Gweithredol y Byrddau Iechyd Lleol, Aelodau Cyswllt ac a nifer y Swyddogion.
Er bod y Cyd-bwyllgor yn gweithredu ar ran y saith BILl wrth gyflawni ei swyddogaethau, erys cyfrifoldeb BILl unigol am eu preswylwyr ac felly maent yn atebol i ddinasyddion a rhanddeiliaid eraill am ddarparu gwasanaethau arbenigol a thrydyddol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fel BIL cynnal, yn cyflogi'r staff sy'n cefnogi'r Cydbwyllgor ac mae Datganiadau Ariannol Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) wedi'u hymgorffori yn eu Cyfrifon Ariannol.