Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfodydd a Phapurau'r Pwyllgor

Fel arfer, mae cyfarfodydd o’r Cyd-bwyllgor yn cael eu cynnal bob yn ail fis ac maen nhw’n agored i’r cyhoedd. Mae hyn yn galluogi’r cyhoedd i weld y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn modd agored a thryloyw. Yn ogystal â hynny, mae’n dangos atebolrwydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) i breswylwyr Cymru. Fodd bynnag, mae argyfwng COVID-19 wedi arwain at orfod gwneud newidiadau dros dro yn y ffordd mae’r Cyd-bwyllgor yn gweithredu.

Yn ystod argyfwng COVID-19, bydd cyfarfodydd o’r Cyd-bwyllgor yn cael eu cynnal ar-lein. O ystyried na fydd y Cyd-bwyllgor yn cyfarfod wyneb yn wyneb am beth amser, bydd cyfarfodydd ar-lein a chyfathrebu electronig yn allweddol i swyddogaeth y Cyd-bwyllgor. O ganlyniad i hyn, fydd dim modd i’r cyhoedd fynychu’n bersonol. Os bydd aelodau o’r cyhoedd am arsylwi cyfarfod, gallan nhw wneud hynny drwy Microsoft Teams. Os hoffech chi wneud hynny, cysylltwch â Helen Tyler drwy e-bostio helen.tyler3@wales.nhs.uk neu ffonio 01443 443 443 est. 78121.

I sicrhau bod PGIAC mor dryloyw ac agored â phosib, bydd y Cyd-bwyllgor yn parhau i wneud y canlynol:

  • Cyhoeddi agendâu’r Cyd-bwyllgor mor bell ymlaen llaw ag sy’n ymarferol bosib
  • Cyhoeddi papurau’r Cyd-bwyllgor mor bell ymlaen llaw ag sy’n ymarferol bosib, gan gydnabod bod rhai’n gallu cael eu cyflwyno yn ystod y digwyddiad ac felly’n cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach. Byddwn ni hefyd yn adrodd ar lafar yn amlach a bydd hyn yn cael ei nodi yng nghofnodion y cyfarfodydd.
  • Gwneud trefniadau er mwyn derbyn cwestiynau ysgrifenedig yn ystod cyfarfodydd o’r Cyd-bwyllgor a darparu ymatebion yn syth ar ôl y cyfarfodydd.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am gyfarfodydd o’n Cyd-bwyllgor neu am bapurau cyn 2016/2017.