Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau a Gomisiynir

Nod PGIAC yw sicrhau bod gwasanaethau arbenigol yn cael eu comisiynu gan ddarparwyr gyda’r profiad ac arbenigedd priodol, a sicrhau eu bod nhw’n gallu darparu gwasanaeth cadarn a chynaliadwy o ansawdd uchel a bod y gwasanaeth hwnnw’n ddiogel i gleifion ac yn gost effeithiol i GIG Cymru.

Mae comisiynu’n cyfeirio at y broses o gynllunio gwasanaethau i nodi anghenion iechyd y boblogaeth, datblygu a rheoli contractau gyda darparwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y safonau gofal iechyd, a monitro ac adolygu ansawdd, diogelwch a pherfformiad y gwasanaeth.  

Mae PGIAC yn cael ei reoli trwy gyfarwyddiaethau swyddogaethol (gofal sylfaenol, meddygol, cynllunio, cyllid a gwasanaethau corfforaethol) sy’n integreiddio trwy 6 thîm comisiynu rhaglenni amlddisgyblaethol (yn gywir hyd at fis Mawrth 2021):  

 

Rhaglen

Gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio

  • Methiant y coluddyn
  • Maethiad a gymerir trwy wythïen yn y cartref
  • Therapi ocsigen hyperbolig

Iechyd meddwl a grwpiau agored i niwed

  • Gwasanaethau Seiciatrig Diogelwch Uchel
  • Gwasanaethau Seiciatrig Diogelwch Canolig
  • Menter Gwella Ansawdd ar gyfer Straen Trawmatig Cymru Gyfan (Straen Trawmatig Cymru)
  • Gwasanaethau Hunaniaeth o ran Rhywedd i Oedolion
  • Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth o ran Rhywedd i Blant a Phobl Ifanc
  • Gwasanaethau Arbenigol Anhwylderau Bwyta (Haen 4)
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Fyddar (Haen 4)
  • Gwasanaethau Amenedigol Arbenigol
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Haen 4 yn unig
  • Gwasanaeth Ymgynghori a Thriniaeth Fforensig Pobl Ifanc (FACTS)
  • Niwroseiciatreg

Canser a’r gwaed

  • Sganio Tomograffeg Allyrru Positronau (PET)
  • Panel Lymffoma Cymru Gyfan
  • Gwasanaethau Sarcoma Arbenigol
  • Trawsblaniad Haematopoietig y Bôn-gelloedd
  • Ffotofferesis y tu hwnt i’r corff ar gyfer clefyd grafftiad yn erbyn lletywr
  • Therapi CAR-T ar gyfer lymffoma a lewcemia lymffoblastig acíwt
  • Llawdriniaeth thorasig
  • Llawdriniaeth ar gyfer canser hepatobustlaidd
  • Abladiad microdon ar gyfer canser yr afu
  • Bracitherapi (canser y prostad a chanser gynaecolegol)
  • Therapi pelydr proton
  • Abladiad Amledd Radio ar gyfer Oesoffagws Barrett
  • Radiotherapi Abladig Stereotactig ar y Corff
  • Gwasanaeth arbenigol ar gyfer Tiwmorau Niwro-endocrin
  • Therapi Radioniwclid Derbynnydd Peptidau (PRRT) ar gyfer Tiwmorau Niwro-endocrin
  • Cemotherapi mewnperitoneaidd hyperthermig (HIPEC) ar gyfer peritonau ffug-mycsoma
  • Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan
  • Llosgiadau a phlastigau
  • Gwasanaeth arbenigol ar gyfer Haemoglobinwria Parocsysmaidd gyda’r nos
  • Anhwylderau Gwaedu Etifeddol
  • Gwasanaeth Gwaed Cymru
  • Gwasanaeth Arbenigol Anaemia Etifeddol
  • Ocsigeneiddio’r Pilenni y tu hwnt i’r Corff (ECMO)
  • Cymorth Anadlu Hirdymor
  • Imiwnoleg

Gwassanaethau Cardiaidd

  • Llawdriniaeth gardiaidd
  • Trawsblannu’r galon, gan gynnwys dyfeisiau cymorth fentriglaidd (VADs)
  • Electroffisioleg, abladu ac abladu cymhleth
  • Dyfeisiau Cardiaidd Cymhleth
  • Cardioleg Ymyriadol (PPCI, PCI, cau’r fforamen hirgrwn patent (PFO), TAVI, PMVLR)
  • Cyflyrau cardiaidd etifeddol
  • Cyflyrau cyn-enedigol ar y galon ymysg oedolion
  • Gorbwysedd pwlmonaidd
  • Ffibrosis systig
  • Rhwydweithiau cardiaidd (Rhwydwaith SWSWCHD, Rhwydwaith NWNWCHD, Rhwydwaith Cardiaidd Cymru Gyfan)
  • Llawdriniaeth fariatrig

Niwrowyddorau a chyflyrau hirdymor

  • Argyfwng niwrolawdriniaeth a niwrolawdriniaeth ddifrys (gan gynnwys radiotherapi stereotactig ac Ysgogi yn Nyfnder yr Ymennydd)
  • Niwroradioleg (diagnostig ac ymyriadol gan niwroradiolegwyr)
  • Niwroadsefydlu
  • Adsefydlu’r asgwrn cefn
  • Gwasanaeth Dyfeisiau, Breichiau a Choesau Artiffisial, gan gynnwys:
  • Cadeiriau olwyn a seddi arbennig
    • Prostheteg
    • Prostheteg orbitol
    • Technoleg gynorthwyol electronig
    • Cyfathrebu Estynedig a Chynyddol
  • Imiwnoleg ar gyfer Diffyg Imiwnedd Sylfaenol
  • Cochlear a BAHA
  • Clefydau anghyffredin – RDIG

Gwasanaethau i fenywod a phlant

  • Cardioleg y Ffetws
  • Meddygaeth y Ffetws
  • Gwasanaeth Newyddenedigol
  • Cludiant Newyddenedigol
  • Cardioleg Baediatrig
  • Ffibrosis Systig Paediatrig
  • Endocrinoleg Baediatrig
  • Gwasanaeth Clust, Trwyn a Gwddf Paediatrig
  • Gastroenteroleg Baediatrig
  • Gofal Dwys Paediatrig
  • Imiwnoleg Baediatrig
  • Clefydau Metabolaidd Etifeddol Paediatrig
  • Arenneg Baediatrig
  • Niwroleg Baediatrig
  • Niwroadsefydlu Paediatrig
  • Oncoleg Baediatrig
  • Radioleg Baediatrig
  • Radiotherapi Paediatrig
  • Rhiwmatoleg Baediatrig
  • Llawdriniaeth Baediatrig

Gogledd Cymru

  • Ffrwythloni In Vitro (IVF)