Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwerthoedd

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) wedi bod yn gweithio i nodi ei werthoedd craidd. Mae pob aelod o PGIAC wedi bod yn rhan o'r ymarfer ac wedi cyfrannu ato, ac mae amrywiaeth enag o farn y staff wedi cael ei chasglyu hefyd.

 

Credwn ni fod y gwerthoedd isod yn helpu i ddiffinio beth sydd wir yn bwysig i ni. Maen nhw’n dangos sut hoffem ni gael ein mesur gan ein gilydd, gan y rheiny sy’n gweithio gyda ni a gan y rheiny sy’n dibynnu arnom ni i ddarparu gwasanaethau. Dyma’r gwerthoedd y byddem ni’n disgwyl i’r rheiny fydd yn ymuno â’n tîm yn y dyfodol eu cynnal hefyd.

Rydyn ni wedi nodi 3 maes oedd yn wirioneddol bwysig i ni:

  • Parch;
  • Partneriaeth; a
  • Gwella ac Arloesi

Weithiau mae’n anodd cynnal gwerthoedd. I’r perwyl hwn, byddwn ni’n ceisio dwyn ein hunain i gyfrif a gwahodd y rheiny sy’n gweithio gyda ni, neu’r rheiny rydyn ni’n gweithio drostyn nhw, i’n mesur ni yn erbyn y gwerthoedd hyn.

Rydyn ni am wybod pryd rydyn ni’n gwneud yn dda a phryd rydyn ni’n tanberfformio. I wneud hyn, gallwch chi roi eich adborth chi i ni.

 

Sut rydyn ni wedi datblygu ein gwerthoedd

Cafodd grŵp llywio ei greu i arwain y gwaith hwn ac mae’r grŵp yn cynnwys pum unigolyn gyda gwahanol rolau yn PGIAC. Er mwyn cael cymaint o fewnbwn â phosib gan y staff, penderfynodd y grŵp llywio ei bod hi’n bwysig mynd ati i gasglu gwybodaeth mewn sawl ffordd wahanol.

Yn gyntaf, cafodd cyfres o sesiynau un i un eu trefnu lle cafodd aelodau o’r staff o wahanol feysydd gwaith yn PGIAC eu paru â’i gilydd er mwyn trafod a nodi’r ffactorau sydd, yn eu barn nhw, yn cyfrannu at ddiwrnod da a diwrnod gwael yn y gwaith.

Yn dilyn y gwaith hwn, cafodd ‘Coeden Werthoedd’ ei chreu. Cafodd y Goeden Werthoedd ei gosod yn swyddfa de Cymru a chafodd y staff eu hannog i roi labeli arni yn nodi pa werthoedd sy’n bwysig iddyn nhw.

Yn ogystal â hynny, cafodd blwch clo ei roi yn y swyddfa fel bod modd i’r staff roi atebion dienw ynddo i’r cwestiwn ‘Pa ymddygiadau ydych chi am eu gweld yn fwy a pha ymddygiadau ydych chi am eu gweld yn llai?’.

Casglodd y grŵp llywio’r wybodaeth a mynd ati i arolygu’r staff er mwyn gweld beth oedd y 10 gwerth pwysicaf iddyn nhw. Yn olaf, cafodd gweithdy ei gynnal a’i hwyluso gan sefydliad allanol sydd gyda chryn lawer o brofiad o ddatblygu gwerthoedd sefydliadol.

Rhoddodd yr hwyluswyr gymorth i ni benderfynu pa werthoedd a grwpiau o werth oedd wir yn bwysig i ni fel sefydliad. Defnyddiodd y grŵp llywio’r adborth a ddaeth yn sgil y gweithdy er mwyn nodi’r tri gwerth craidd, a chafodd y rhain ei lansio i gyd-fynd â dathlu 70 o flynyddoedd ers sefydlu’r GIG.