Neidio i'r prif gynnwy
Hayley Thomas

Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro

Powys Teaching University Health Board

Amdanaf i

Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro

Penodwyd Hayley Thomas yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad y bwrdd iechyd ym mis Mehefin 2015. Ers ei phenodi i'r Bwrdd mae wedi darparu arweinyddiaeth weithredol ar gyfer ystod eang o bortffolios gan gynnwys iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gwasanaethau cymunedol, gofal sylfaenol, cyfalaf ac ystadau, comisiynu, perfformiad, strategaeth a phartneriaethau.

Mae hi wedi bod yn Brif Weithredwr dros dro y bwrdd iechyd ers mis Mai 2023, ar secondiad o'i rôl barhaol fel Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Partneriaethau a Gofal Sylfaenol.

Ar ôl graddio, dechreuodd Hayley ei gyrfa yn y Trydydd Sector yn gweithio i MIND a Chyngor Gwirfoddol Sirol.  Mae hi wedi gweithio yn y GIG ers 1999 gyda swyddi mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd a datblygu iechyd cymunedol yn ogystal â gweithio yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru i gyflawni perfformiad gwell.

Mae Hayley yn rhugl yn y Gymraeg, mae ganddi radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes, ac mae'n gymrawd o'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig.