Mae system cyffuriau cost uchel (HCD) Blueteq yn system feddalwedd ar y we sydd wedi’i dylunio er mwyn gwella llywodraethiant ariannol meddyginiaethau cost uchel a sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau clinigol cenedlaethol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).
Mae system HCD Blueteq eisoes yn cael ei defnyddio'n eang ledled GIG Lloegr. Mae’r system yn rhoi proses safonedig i GIG Cymru er mwyn lleihau’r amrywiadau mewn mynediad at feddyginiaethau ar draws y byrddau iechyd, ynghyd â chyfleoedd i gofnodi setiau data niferus megis demograffeg sylfaenol, canlyniadau clinigol a nodweddion cleifion.
Cafodd Blueteq ei gyflwyno ar draws GIG Cymru ar gyfer meddyginiaethau sy’n cael eu comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) ym mis Ebrill 2021. PGIAC sy'n rheoli'r broses o gyflwyno'r holl gyffuriau HCD y mae'n eu comisiynu. Dechreuodd y broses o gyflwyno gweddill y cyffuriau cost uchel mewn gofal eilaidd a sylfaenol ym mis Ebrill 2023 yn unol â WHC 2022 032 (Mawrth 2023) a chaiff ei arwain gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) sy'n cefnogi AWMSG a'i is-grwpiau.
Mae system HCD Blueteq yn rhoi cymeradwyaeth gyflym er mwyn i gleifion gael mynediad at driniaeth, ac mae data penodol manwl o fudd i archwiliadau a chynllunio. Mae'r data clinigol sydd ar gael yn system HCD Blueteq yn helpu i lywio gofynion gwasanaeth mewn gweithgarwch rhagweld, cynllunio a gweithredu ar gyfer meddyginiaethau newydd a gymeradwyir gan NICE ac AWMSG neu a argymhellir gan broses Meddyginiaethau Cymru'n Un.
Mae’r ffurflenni a ddefnyddir yn GIG Cymru yn dilyn meini prawf NICE ac AWMSG, gydag ychwanegiadau posibl ar gyfer adrodd pan fo hynny’n berthnasol.
Bydd PGIAC yn cyhoeddi rhestr o ffurflenni cymeradwyo meddyginiaethau sydd ar gael ar system HCD Blueteq GIG Cymru. Bydd PGIAC yn diweddaru'r rhestr hon yn rheolaidd. Bydd y rhestr ar gael ar wefan Blueteq WHSSC
Cyn bod ffurflen gymeradwyo ar gael, bydd cleifion yn gallu derbyn meddyginiaeth neu driniaeth os yw'n briodol i'w cyflwr. Byddai hyn yn mynd drwy'r broses Cymeradwyo Cyllid Ymlaen Llaw. Unwaith y bydd y ffurflenni cymeradwyo ar gael, disgwylir y bydd ffurflen yn cael ei chwblhau wrth ddechrau triniaeth.
Ar gyfartaledd mae’n cymryd tua 5 i 10 munud i lenwi ffurflen cychwyn triniaeth. Bydd yr amser a gymerir yn dibynnu ar brofiad rhywun o ddefnyddio system HCD Blueteq a'r math o driniaeth dan sylw. Gall faint o fanylion sydd eu hangen i lenwi'r ffurflen amrywio'n sylweddol.
Lle bynnag y bo modd, mae ffurflenni wedi'u cynllunio i ganiatáu neu wrthod cymeradwyaeth yn awtomatig, fel y bydd ymateb yn cael ei dderbyn ar unwaith ar ôl cyflwyno'r ffurflen.
Mae system HCD Blueteq yn cadw hanes pob cais, gan gynnwys yr holl ohebiaeth gysylltiedig.
Bydd y bwrdd iechyd, a’r tîm amlddisgyblaethol, yn arwain clinigwyr ar ba lwybr i’w ddilyn er mwyn i’w cais am driniaeth gael ei hystyried; er enghraifft, Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR).
Na, dim ond ar ddechrau'r driniaeth y mae angen i chi lenwi ffurflen gymeradwyo ar gyfer eich claf, ac weithiau er mwyn parhau â'r driniaeth, pan fo canllawiau cenedlaethol yn mynnu adolygiad.
Mae ffurflen cychwyn triniaeth yn cael ei llenwi cyn dechrau triniaeth, er mwyn cael cymeradwyaeth. Dim ond ar gyfer rhai meddyginiaethau penodol y bydd angen ffurflen parhad triniaeth lle mae canllawiau yn argymell adolygiad ar bwynt(au) penodol i fodloni meini prawf i barhau â thriniaeth.
Mae PGIAC a Byrddau Iechyd yng Nghymru yn gallu defnyddio data system HCD Blueteq i gefnogi llywodraethu clinigol ac ariannol ar gyfer gwneud presgripsiwn am feddyginiaethau cost uchel. Bydd y data’n rhoi sicrwydd bod meddyginiaeth cost uchel ar gael i gleifion sy'n bodloni'r meini prawf cenedlaethol ar gyfer triniaeth.
Bydd gan holl ddefnyddwyr system HCD Blueteq GIG Cymru fynediad at eu data perthnasol eu hunain o fewn y system, sy'n cynnig cymorth da ar gyfer archwiliadau clinigol a chynllunio.
Oes, mae NHSE a PGIAC yn ddwy system ar wahân felly er mwyn i ddefnyddiwr gael mynediad at y ddwy system byddai angen cyfrif ar gyfer y ddwy system ac felly dwy set o fanylion mewngofnodi.
Mae ffurflenni system HCD Blueteq yn cael eu creu o’r newydd ar gyfer GIG Cymru neu eu haddasu o dempled cyfredol GIG Lloegr os ydynt ar gael ac yn addas.
Defnyddir meini prawf triniaeth y manylir arnynt mewn canllawiau cenedlaethol, megis canllawiau NICE ac AWMSG, i ddatblygu'r ffurflenni. Gellir ychwanegu meini prawf ychwanegol os yn briodol.
Ymgynghorir â'r arbenigeddau clinigol perthnasol yn GIG Cymru ar y ffurflenni a grëir, cyn iddynt gael eu cwblhau a'u huwchlwytho i'r system.
Oes, mae system HCD Blueteq yn darparu canllaw cynhwysfawr i ddefnyddwyr ar gyfer pob agwedd ar y system HCD. Mae'r canllaw ar gael ar wefan AWTTC .
Mae hyfforddiant defnyddwyr system HCD Blueteq hefyd ar gael gan Blueteq. Cysylltwch â thîm cymorth Blueteq ar trust@blueteq.co.uk .
Cysylltwch â Blueteq i sefydlu defnyddiwr newydd neu i gael hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r system (yn rhad ac am ddim) naill ai yn trust@blueteq.co.uk neu whssc@blueteq.co.uk
Cysylltwch â thîm cymorth Blueteq ar trust@blueteq.co.uk os oes gennych unrhyw broblemau technegol gyda Blueteq.