SYSTEM CYFFURIAU COST UCHEL (HCDS) PGIAC BLUETEQ
System feddalwedd ar y we yw Blueteq sy’n cael ei ddefnyddio i reoli, awdurdodi a chaffael cyffuriau cost uchel ar draws ystod eang o gyflyrau gofal iechyd. Mae'r system yn gwella llywodraethu, yn darparu mynediad cyflymach at foddion i gleifion ac yn sicrhau bod moddion yn cael eu presgripsiynu yn unol â chanllawiau Arfarnu Technoleg Iechyd a gyhoeddwyd gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE).
Mae'n sicrhau bod yr holl driniaethau sy’n cael eu comisiynu gan PGIAC sy’n cael eu presgripsiynu yn unol ag arfarniad technoleg (TA) AWMSG a NICE a chanllawiau technoleg arbenigol iawn (HST) gan gynnwys meddyginiaethau sy’n cael eu comisiynu yn uniongyrchol gan PGIAC yn cael eu had-dalu.
Mae Blueteq yn cofnodi data ar ddemograffeg cleifion, nodweddion clinigol, hanesion triniaeth, ymateb triniaeth a diogelwch mewn fformat safonol. Gall yr wybodaeth hon gael ei ddefnyddio i fonitro ac adrodd ar effeithiolrwydd a goddefgarwch triniaeth, hwyluso datblygiad gwasanaethau a chynllunio'r gweithlu.
Gweithredu
Cafodd Blueteq ei gyflwyno ar draws GIG Cymru ar gyfer meddyginiaethau sy’n cael eu comisiynu gan PGIAC ym mis Ebrill 2021. Dechreuodd y broses o gyflwyno'r cyffuriau cost uchel sy'n weddill mewn gofal eilaidd a sylfaenol ym mis Ebrill 2023 a chafodd ei arwain gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) sy'n cefnogi AWMSG a'i is-grwpiau.
Trawsffiniol
Mae cydweithrediad agos â PGIAC a GIG Lloegr (NHSE) wedi galluogi Blueteq i gynnwys digon o ymarferoldeb i sicrhau y gellir darparu ar gyfer triniaethau trawsffiniol yn ddi-dor a'u priodoli i'r sefydliadau cywir.
Data Canlyniad, Parhad ac Adolygu
Lle bo'n briodol, gall cyfnod adolygu cael ei gynnwys a’i storio ar gyfer triniaethau penodol ac yna caiff ei gyfrifo a'i gofnodi yn ôl pob hysbysiad.
Dogfennau
Gall cais cyffuriau cost uchel cael ei gymeradwyo trwy lenwi 'ffurflen' blwch ticio syml sy'n rhestru'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y feddyginiaeth honno.
Mae'r taenlenni canlynol yn dangos y ffurflenni 'byw' sydd wedi'u galluogi ar system Blueteq a'r rhai sy'n dal i gael eu datblygu.
Cymeradwyaeth ymlaen llaw
Os dydy Blueteq ddim ar gael eto ar gyfer cyffuriau cost uchel sy’n cael eu comisiynu gan PGIAC (e.e. sy'n dal i gael ei ddatblygu), parhewch i ddefnyddio ein proses Cymeradwyaeth Blaenorol trwy ddefnyddio'r ffurflen hon: FFURFLEN GYMERADWYO BLAENOROL
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses hon drwy gysylltu â Thîm Rheoli Cleifion PGIAC yn WHSSC.IPC@wales.nhs.uk
Gwybodaeth gyswllt a mynediad Blueteq
Rhagor o Wybodaeth
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml: System Gyffuriau Cost Uchel Blueteq ar gyfer GIG Cymru
Ein pwyllgorau - Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (Gogledd Cymru)
Ymestyn ymhellach y defnydd o Blueteq mewn gofal eilaidd (WHC/2022/032) | LLYW.CYMRU