Cyfarwyddwr Meddygol
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Unit G1, Main Ave, Treforest Industrial Estate, Pontypridd, CF37 5YL
Cyfarwyddwr Meddygol
Cafodd Iolo ei hyfforddi mewn paediatreg anadlol yn Southampton ac yn Llundain, cyn cael ei benodi’n bediatregydd anadlol ymgynghorol yn Ysbyty Plant Cymru. Sefydlodd wasanaethau arbenigol cwsg paediatrig, cymorth anadlu anfewnwthiol, broncosgopi ac asthma. Mae wedi arwain y gwasanaeth ffibrosis systig paediatrig arbenigol yng Nghaerdydd ac ef yw arweinydd clinigol sgrinio ffibrosis systig ymhlith babanod newydd anedig yng Nghymru. Mae wedi bod yn ymgynghorydd allanol i’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ac mae’n ymgynghorydd arbenigol i’r Comisiwn Meddyginiaethau Dynol.