Neidio i'r prif gynnwy
Professor. Iolo Doull

Cyfarwyddwr Meddygol

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

pgiac.gig.cymru/

Unit G1, Main Ave, Treforest Industrial Estate, Pontypridd, CF37 5YL

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Meddygol

 

Cafodd Iolo ei hyfforddi mewn paediatreg anadlol yn Southampton ac yn Llundain, cyn cael ei benodi’n bediatregydd anadlol ymgynghorol yn Ysbyty Plant Cymru. Sefydlodd wasanaethau arbenigol cwsg paediatrig, cymorth anadlu anfewnwthiol, broncosgopi ac asthma. Mae wedi arwain y gwasanaeth ffibrosis systig paediatrig arbenigol yng Nghaerdydd ac ef yw arweinydd clinigol sgrinio ffibrosis systig ymhlith babanod newydd anedig yng Nghymru. Mae wedi bod yn ymgynghorydd allanol i’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ac mae’n ymgynghorydd arbenigol i’r Comisiwn Meddyginiaethau Dynol.

 
Yn ogystal â hynny, mae wedi bod yn Swyddog Cymru yng Ngholeg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ac yn Llywydd Cymdeithas Anadlu Paediatrig Prydain. Mae wedi cyhoeddi portffolio eang o ymchwil ac wedi cael ei gydnabod gyda theitl Cadeirydd Anrhydeddus gan Brifysgol Caerdydd