Nod PGIAC yw sicrhau bod gwasanaethau arbenigol yn cael eu comisiynu gan ddarparwyr gyda’r profiad ac arbenigedd priodol, a sicrhau eu bod nhw’n gallu darparu gwasanaeth cadarn a chynaliadwy o ansawdd uchel a bod y gwasanaeth hwnnw’n ddiogel i gleifion ac yn gost effeithiol i GIG Cymru.
Mae comisiynu’n cyfeirio at y broses o gynllunio gwasanaethau i nodi anghenion iechyd y boblogaeth, datblygu a rheoli contractau gyda darparwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y safonau gofal iechyd, a monitro ac adolygu ansawdd, diogelwch a pherfformiad y gwasanaeth.
Mae PGIAC yn cael ei reoli trwy gyfarwyddiaethau swyddogaethol (gofal sylfaenol, meddygol, cynllunio, cyllid a gwasanaethau corfforaethol) sy’n integreiddio trwy 6 thîm comisiynu rhaglenni amlddisgyblaethol (yn gywir hyd at fis Mawrth 2021):
|
Rhaglen
|
Gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu
|
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio
|
- Methiant y coluddyn
- Maethiad a gymerir trwy wythïen yn y cartref
- Therapi ocsigen hyperbolig
|
Iechyd meddwl a grwpiau agored i niwed
|
- Gwasanaethau Seiciatrig Diogelwch Uchel
- Gwasanaethau Seiciatrig Diogelwch Canolig
- Menter Gwella Ansawdd ar gyfer Straen Trawmatig Cymru Gyfan (Straen Trawmatig Cymru)
- Gwasanaethau Hunaniaeth o ran Rhywedd i Oedolion
- Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth o ran Rhywedd i Blant a Phobl Ifanc
- Gwasanaethau Arbenigol Anhwylderau Bwyta (Haen 4)
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Fyddar (Haen 4)
- Gwasanaethau Amenedigol Arbenigol
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Haen 4 yn unig
- Gwasanaeth Ymgynghori a Thriniaeth Fforensig Pobl Ifanc (FACTS)
- Niwroseiciatreg
|
Canser a’r gwaed
|
- Sganio Tomograffeg Allyrru Positronau (PET)
- Panel Lymffoma Cymru Gyfan
- Gwasanaethau Sarcoma Arbenigol
- Trawsblaniad Haematopoietig y Bôn-gelloedd
- Ffotofferesis y tu hwnt i’r corff ar gyfer clefyd grafftiad yn erbyn lletywr
- Therapi CAR-T ar gyfer lymffoma a lewcemia lymffoblastig acíwt
- Llawdriniaeth thorasig
- Llawdriniaeth ar gyfer canser hepatobustlaidd
- Abladiad microdon ar gyfer canser yr afu
- Bracitherapi (canser y prostad a chanser gynaecolegol)
- Therapi pelydr proton
- Abladiad Amledd Radio ar gyfer Oesoffagws Barrett
- Radiotherapi Abladig Stereotactig ar y Corff
- Gwasanaeth arbenigol ar gyfer Tiwmorau Niwro-endocrin
- Therapi Radioniwclid Derbynnydd Peptidau (PRRT) ar gyfer Tiwmorau Niwro-endocrin
- Cemotherapi mewnperitoneaidd hyperthermig (HIPEC) ar gyfer peritonau ffug-mycsoma
- Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan
- Llosgiadau a phlastigau
- Gwasanaeth arbenigol ar gyfer Haemoglobinwria Parocsysmaidd gyda’r nos
- Anhwylderau Gwaedu Etifeddol
- Gwasanaeth Gwaed Cymru
- Gwasanaeth Arbenigol Anaemia Etifeddol
- Ocsigeneiddio’r Pilenni y tu hwnt i’r Corff (ECMO)
- Cymorth Anadlu Hirdymor
- Imiwnoleg
|
Gwassanaethau Cardiaidd
|
- Llawdriniaeth gardiaidd
- Trawsblannu’r galon, gan gynnwys dyfeisiau cymorth fentriglaidd (VADs)
- Electroffisioleg, abladu ac abladu cymhleth
- Dyfeisiau Cardiaidd Cymhleth
- Cardioleg Ymyriadol (PPCI, PCI, cau’r fforamen hirgrwn patent (PFO), TAVI, PMVLR)
- Cyflyrau cardiaidd etifeddol
- Cyflyrau cyn-enedigol ar y galon ymysg oedolion
- Gorbwysedd pwlmonaidd
- Ffibrosis systig
- Rhwydweithiau cardiaidd (Rhwydwaith SWSWCHD, Rhwydwaith NWNWCHD, Rhwydwaith Cardiaidd Cymru Gyfan)
- Llawdriniaeth fariatrig
|
Niwrowyddorau a chyflyrau hirdymor
|
- Argyfwng niwrolawdriniaeth a niwrolawdriniaeth ddifrys (gan gynnwys radiotherapi stereotactig ac Ysgogi yn Nyfnder yr Ymennydd)
- Niwroradioleg (diagnostig ac ymyriadol gan niwroradiolegwyr)
- Niwroadsefydlu
- Adsefydlu’r asgwrn cefn
- Gwasanaeth Dyfeisiau, Breichiau a Choesau Artiffisial, gan gynnwys:
- Cadeiriau olwyn a seddi arbennig
- Prostheteg
- Prostheteg orbitol
- Technoleg gynorthwyol electronig
- Cyfathrebu Estynedig a Chynyddol
- Imiwnoleg ar gyfer Diffyg Imiwnedd Sylfaenol
- Cochlear a BAHA
- Clefydau anghyffredin – RDIG
|
Gwasanaethau i fenywod a phlant
|
- Cardioleg y Ffetws
- Meddygaeth y Ffetws
- Gwasanaeth Newyddenedigol
- Cludiant Newyddenedigol
- Cardioleg Baediatrig
- Ffibrosis Systig Paediatrig
- Endocrinoleg Baediatrig
- Gwasanaeth Clust, Trwyn a Gwddf Paediatrig
- Gastroenteroleg Baediatrig
- Gofal Dwys Paediatrig
- Imiwnoleg Baediatrig
- Clefydau Metabolaidd Etifeddol Paediatrig
- Arenneg Baediatrig
- Niwroleg Baediatrig
- Niwroadsefydlu Paediatrig
- Oncoleg Baediatrig
- Radioleg Baediatrig
- Radiotherapi Paediatrig
- Rhiwmatoleg Baediatrig
- Llawdriniaeth Baediatrig
|
Gogledd Cymru
|
- Ffrwythloni In Vitro (IVF)
|