Neidio i'r prif gynnwy
Jacqui Evans

Ysgrifennydd y Pwyllgor a Phennaeth Gwasanaethau Corfforaethol

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

pgiac.gig.cymru/

Unit G1, Main Ave, Treforest Industrial Estate, Pontypridd, CF37 5YL

Amdanaf i

Ysgrifennydd y Pwyllgor a Phennaeth Gwasanaethau Corfforaethol

Ymunodd Jacqui â Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru  ym mis Mehefin 2021.

Ymunodd Jacqui â’r GIG yn 2014, ac mae wedi dal swyddi llywodraethu uwch a swyddi cydymffurfiaeth yn BIP Caerdydd a’r Fro, BIP Bae Abertawe, BIP Cwm Taf Morgannwg a Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae wedi ennill cyfoeth o brofiad yn ystod ei chyfnod yn y GIG, ac mae ganddi hanes hir o gyflawni mewn nifer o feysydd, o ddatblygu a chryfhau llywodraethiant, cydymffurfiaeth a fframweithiau rheoli risg, i reoli gwasanaethau corfforaethol i Gymru gyfan ac arwain elfennau llywodraethu a chyfathrebu prosiectau mawr.

Cyn ymuno â’r GIG, Jacqui oedd y Dirprwy Swyddog Monitro (swydd gyfwerth ag Ysgrifennydd Pwyllgor) a Phennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Gwasanaethau Democrataidd i’r Awdurdod Tân ac Achub am 7 mlynedd, a chefnogodd 25 aelod etholedig ar draws chwe awdurdod lleol. Yn ystod ei gyrfa, mae hefyd wedi dal swyddi mewn gwasanaethau i’r DU gyfan, sef Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a’r Asiantaeth Trwyddedu a Gyrwyr (DVLA).

Mae Jacqui’n cefnogi’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn uniongyrchol, Sian Lewis, a Chadeirydd y Pwyllgor, Kate Eden, wrth ddatblygu systemau, prosesau a diwylliant cryf ar gyfer llywodraethu effeithiol ac effeithlon.

Mae’n aelod myfyriwr o Sefydliad Siartredig Llywodraethu, ac mae ganddi Radd Feistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus gan Brifysgol Caerdydd.