Cyfarwyddwr Nyrsio a Sicrhau Ansawdd
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Unit G1, Main Ave, Treforest Industrial Estate, Pontypridd, CF37 5YL
Cyfarwyddwr Nyrsio a Sicrhau Ansawdd
Cymhwysodd Carole fel bydwraig ym 1987. Hi oedd Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Menywod a Phlant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda tan fis Medi 2015.
Mae gan Carole radd Meistr mewn Rheoli Gofal Iechyd o Brifysgol Cymru, Abertawe. Fe'i penodwyd yn asesydd RCMG ar gyfer Ymholiadau Cyfrinachol MBRRACE-UK i Farwolaeth Mamau yn 2013.
Mae hi wedi ennill nifer o wobrau Bydwreigiaeth Genedlaethol RCM am Ofal dan arweiniad Bydwreigiaeth a chipio profiad y claf. Eleni roedd ar restr fer gwobr Dyngarol Nyrs y Flwyddyn RCN am ei gwaith elusennol yn Uganda. Mae ei diddordebau yn cynnwys rhedeg, sgïo a threulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau.