Independent Member
Welsh Health Specialised Services Committee
Unit G1, Main Ave, Treforest Industrial Estate, Pontypridd, CF37 5YL
Independent Member
Mae Carolyn yn uwch-weithredwr a chyfarwyddwr anweithredol profiadol a medrus iawn, gyda phrofiad sylweddol yn y GIG ac mewn addysg uwch yng Nghymru a Lloegr. A hithau wedi cymhwyso fel nyrs gyffredinol gofrestredig yn wreiddiol, datblygodd hi yrfa glinigol yn ddiweddarach — gan gynnwys cyfnod o amser yng Ngorllewin Awstralia — cyn symud at hyfforddi ac at fod yn uwch reolwyr. Mae Carolyn wedi cynnal sawl uwch-rôl yn y GIG ym Mryste cyn symud at addysg uwch ym Mhrifysgol Bryste, ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Caerdydd fel Cofrestrydd Coleg.
Erbyn hyn, mae Carolyn wedi datblygu gyrfa bortffolio sy'n cynnwys rôl Aelod Annibynnol (Prifysgolion) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cadeirydd Prosiect Iechyd Meddwl Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru, Cadeirydd Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru ac Aelod Annibynnol o Fwrdd y Llywodraethwyr, Prifysgol Gorllewin Lloegr. Yn ogystal â hynny, mae ganddi amrywiaeth o rolau gwirfoddol yn y gymuned leol.
Mae Carolyn yn eiriolwr brwd o fudd theatr a chorau, ar ôl cymryd rhan mewn dramâu amatur a chorau lleol am flynyddoedd lawer. Angerdd mwy diweddar sydd ganddi yw Parkrun, boed yn gwirfoddoli neu’n rhedeg.