Acting Chief Executive Officer
Betsi Cadwaladr University Health Board
Acting Chief Executive Officer
Penodwyd Carol yn Brif Weithredwr ym mis Mawrth 2015, ar ôl treulio pum mlynedd yn Gyfarwyddwr Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. A hithau gyda chefndir mewn swyddi clinigol a rheolaeth uwch, mae gan Carol brofiad gwasanaeth amrywiol gan gynnwys gwasanaethau menywod a phlant, iechyd meddwl a meddygaeth gyffredinol. Mae ganddi hefyd gefndir helaeth mewn gweithio mewn partneriaeth ac mae wedi ymrwymo i lunio a darparu gwell gwasanaethau a chanlyniadau i bobl oherwydd hynny. Mae hefyd wedi bod yn Is-gadeirydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, sef rheoleiddiwr nyrsys a bydwragedd y DU. Ar hyn o bryd, mae Carol yn ymgymryd â rôl Prif Swyddog Gweithredol Arweiniol mewn meysydd fel Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod yng Nghymru.
Mae ganddi radd Meistr mewn Rheoli Gwasanaethau Iechyd ac mae hefyd wedi bod yn Ysgolhaig Arweinyddiaeth Sefydliad Florence Nightingale.