Neidio i'r prif gynnwy

Polisïau NWJCC

I ddychwelyd i Wefan Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru ewch i: cbc.gig.cymru/

Mae dogfennaeth sefydliadol o ansawdd uchel yn offeryn hanfodol ar gyfer llywodraethu, sy'n helpu Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC) i gyflawni ei amcanion strategol, yn ogystal â hwyluso'r broses o ddarparu gofal o safon gyson uchel i ddefnyddwyr gwasanaeth.

Mae polisïau comisiynu yn diffinio'r gwasanaethau arbenigol a gomisiynir gan NWJCC ar ran saith bwrdd iechyd Cymru a'r meini prawf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i gleifion Cymru gael mynediad at y driniaeth.

Mae manylebau gwasanaeth yn bwysig wrth ddiffinio'n glir yr hyn y mae'r NWJCC yn ei ddisgwyl er mwyn i ddarparwyr gynnig gwasanaethau diogel ac effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac, yn bwysicach fyth, yn gosod mynediad teg at wasanaethau i gleifion Cymru.

Polisïau corfforaethol yn gosod disgwyliadau NWJCC o ran ymddygiad staff a'r sefydliad ac yn cynorthwyo NWJCC i gynnal cydymffurfiaeth gyfreithiol.

Isod mae'r categorïau o ddogfennau sydd ar gael: