Cyfarwyddwr Cyllid a Gwybodaeth
WHSSC
Unit G1, The Willowford, Treforest Industrial Estate, Pontypridd, CF37 5YL
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwybodaeth
Ymunodd Stacey fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwybodaeth Pwyllgorau Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Brys ym mis Hydref 2023. Mae'r pwyllgorau cenedlaethol yn gweithredu ar ran Byrddau Iechyd Lleol GIG Cymru, i gomisiynu mynediad teg at wasanaethau diogel, effeithiol a chynaliadwy ar gyfer bobl Cymru. Ymunodd Stacey â Phwyllgorau o Gyfarwyddiaeth Weithredol Cynllunio a Chyflawni Ariannol y GIG, swyddogaeth genedlaethol a sefydlwyd yn wreiddiol ym mis Ionawr 2018 i arwain y gwaith o ddatblygu arfer gorau o ran rheolaeth ariannol, gwybodaeth ariannol strategol, Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Werth, a gwelliant ariannol ar draws GIG Cymru.
Dechreuodd Stacey ei gyrfa mewn practis preifat bach ac ers hynny mae wedi dal nifer o rolau yn y diwydiant economaidd, Llywodraeth Cymru a’r sector iechyd gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn rolau cyfrifeg a chyllid. Mae Stacey yn Gyfrifydd Cymwys ac yn falch o fod wedi cwblhau ei chymwysterau yn llwyddiannus fel prentis ac eiriolwr ar gyfer dysgu yn y gweithle. Mae Stacey yn mwynhau gweithio mewn sefydliadau cenedlaethol ac mae wedi bod yn ymwneud â chyflawni strategaeth ariannol, gan ddod â dadansoddeg data ar sail tystiolaeth, gwyddor data a chyllid ynghyd.
Mae Stacey yn byw ar fferm yng Nghymoedd De Cymru gyda'i gŵr a'i dwy ferch.